2014 Rhif 2303 (Cy. 227)

BWYD, cymru

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18) (“FIC”).

Maent hefyd yn gweithredu, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L 66, 13.3.1999, t 16) ac ail baragraff is-baragraff 1 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynhyrchion coco a siocled a fwriedir i bobl eu bwyta (OJ Rhif L 197, 3.8.2000, t 19).

Mae rheoliad 3 yn cynnwys rhanddirymiad sy’n ymwneud â llaeth neu gynhyrchion llaeth a gynigir mewn potel wydr a fwriedir i’w hailddefnyddio. Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn darparu rhanddirymiad sy’n ymwneud â defnyddio dynodiad briwgig ar gyfer brwgig nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion a nodwyd ym mhwynt 1 o Ran B o Atodiad VI i FIC.

Mae rheoliad 5 yn galluogi manylion sy’n ymwneud â sylwedd neu gynnyrch alergenaidd mewn bwyd heb ei ragbecynnu i gael eu rhoi ar gael (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r rheoliad) gan ddefnyddio unrhyw ddull y mae gweithredwr busnes bwyd yn ei ddewis. Rhaid i’r manylion gofynnol gael eu rhoi ar gael o dan FIC ond gellir eu rhoi ar gael gan ddefnyddio’r dulliau y darperir ar eu cyfer yn FIC neu yn unol â darpariaethau rheoliad 5.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i enw’r bwyd gael ei ddarparu yn achos bwydydd penodol nad ydynt wedi eu rhagbecynnu a bwydydd penodol sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol. Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ddangosiad meintiol o’r cynnwys cig gael ei roi yn achos cynhyrchion penodol. Rhaid i’r manylion hynny gael eu rhoi yn un o’r ffyrdd a bennir yn rheoliadau 6(4) (yn achos enw’r bwyd) a 7(5) (yn achos y dangosiad o’r cynnwys cig). Nid yw darpariaethau rheoliadau 6(4) a 7(5) yn gymwys i gynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell. Mae Erthygl 14(2) o FIC (fel y’i darllenir gyda darpariaethau perthnasol eraill  FIC) yn gymwys yn achos cynnig o’r fath.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth benodol gael ei darparu pan fydd cynhyrchion bwyd a arbelydrwyd neu gynhyrchion bwyd sy’n cynnwys cynhwysyn a arbelydrwyd yn cael eu gwerthu mewn swmp a phan fydd cynhwysion a arbelydrwyd yn cael eu defnyddio mewn cynhyrchion bwyd penodol sydd wedi eu rhagbecynnu.

Mae rheoliad 9 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd i orfodi’r Rheoliadau. Mae rheoliad 10 yn peri mai trosedd yw methu â chydymffurfio â darpariaethau penodedig yn FIC ac â’r gofyniad ynglŷn ag alergenau yn rheoliad 5(5). Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer y gosb i’r trosedd hwnnw.

Mae rheoliad 12 ac Atodlen 4 yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16), gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1), sy’n galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno sy’n ei gwneud yn ofynnol i rywun gydymffurfio â darpariaethau penodedig yn FIC (ac eithrio i’r graddau y mae rhai o’r darpariaethau yn gymwys i’r manylyn gorfodol sy’n ymwneud â swm net neu swm yn gyffredinol) neu â darpariaethau penodedig yn rheoliadau 5 i 8. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn peri mai trosedd yw methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella.

Mae rheoliad 13 a chofnod 1 y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6 yn dirymu’r rhan fwyaf o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499) ar 13 Rhagfyr 2014 i’r graddau y mae’r Rheoliadau hynny’n gymwys i Gymru. Mae rheoliad 13 a chofnod 1 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 6 yn dirymu gweddill darpariaethau Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (ynglŷn â thermau sy’n ymwneud ag alcohol, hufen a chaws) ar 13 Rhagfyr 2018 i’r graddau y mae’r Rheoliadau hynny’n gymwys i Gymru. Mae rheoliad 13 ac Atodlen 6 hefyd yn dirymu offerynnau statudol perthnasol eraill.

Mae rheoliad 14 ac Atodlen 7 yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, i’r graddau y mae’r Rheoliadau hynny’n gymwys i Gymru, yn ystod y cyfnod cyn i’r Rheoliadau hynny gael eu dirymu (fel y disgrifir uchod). Maent yn diwygio offerynnau statudol eraill er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod deddfwriaeth berthnasol yr UE yn cael ei diddymu a’i disodli a bod Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn cael eu dirymu.

Mae rheoliad 14 a Rhan 1 o Atodlen 7 hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996 (O.S. 1996/1502), fel y maent yn gymwys i Gymru, er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod Cyfarwyddeb y Cyngor 89/396/EEC (OJ Rhif L 186, 30.6.1989, t 21) yn cael ei ddiddymu a’i ddisodli gan Gyfarwyddeb 2011/91/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch dangosiadau neu farciau sy’n nodi i ba lot y mae deunydd bwyd yn perthyn (OJ Rhif L 334, 16.12.2011, t 1). Mae Rhan 2 o Atodlen 7 yn cynnwys y ddarpariaeth sy’n gweithredu ail baragraff is-baragraff 1 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (a grybwyllir uchod).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd  asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales.

 


2014 Rhif 2303 (Cy. 227)

BWYD, cymru

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

Gwnaed                                   28 Awst 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       29 Awst 2014

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) i (6)      

 

CYNNWYS

 

1.              Enwi, cymhwyso a chychwyn

2.              Dehongli

3.              Rhanddirymiad ynglŷn â llaeth a chynhyrchion llaeth

4.              Rhanddirymiad ynglŷn â briwgig

5.              Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc.

6.              Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. – gofyniad cyffredinol i’w henwi

7.              Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys cig a chynhwysion eraill

8.              Bwydydd a arbelydrwyd

9.              Gorfodi

10.          Trosedd

11.          Cosbi

12.          Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

13.          Dirymiadau

14.          Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudol

 

         ATODLEN 1  —  Darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy’n cynnwys cyfeiriadau newidiadwy at FIC yn rhinwedd rheoliad 2(3)

         ATODLEN 2  —  Marc cenedlaethol ar gyfer y rhanddirymiad ynglŷn â briwgig

                RHAN 1  —  Y marc cenedlaethol                                                                         

                RHAN 2  —  Manylebau’r marc cenedlaethol                                                         

         ATODLEN 3  —  Bwydydd nad yw rheoliad 7 yn gymwys iddynt                                   

         ATODLEN 4  —  Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf                                      

                RHAN 1  —  Addasu adran 10(1)                                                                          

                RHAN 2  —  Addasu adran 32(1)                                                                          

                RHAN 3  —  Addasu adran 37(1) a (6)                                                                  

                RHAN 4  —  Addasu adran 39(1) a (3)                                                                  

                RHAN 5  —  Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill yn y Ddeddf                         

         ATODLEN 5  —  Hysbysiadau gwella – darpariaethau penodedig yn FIC                         

                RHAN 1  —  Y ddarpariaeth yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hi ar ac ar ôl 19 Medi 2014                                                                           

                 PART 2  —  Y darpariaethau yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2014                                                                  

                RHAN 3  —  Y ddarpariaeth yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hi ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2016                                                                      

         ATODLEN 6  —  Dirymiadau                                                                                     

                RHAN 1  —  Dirymiadau sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014                                  

                RHAN 2  —  Dirymiadau sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2018                                  

         ATODLEN 7  —  Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudol

                RHAN 1  —  Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill sy’n dod i rym ar 19 Medi 2014  

                RHAN 2  —  Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014

Mae’r Rheoliadau a ganlyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004([2]) mewn darpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972—

(a)     o ran mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod)([3]);


(b)     o ran y polisi amaethyddol cyffredin([4]).

I’r graddau y gwneir y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([5]), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)([6]) o’r Ddeddf honno.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([7]) wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y canlynol—

(a)     i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliad 2(3) ac Atodlen 1, paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([8]);

(b)     i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 13 a 14 ac Atodlenni 6a 7

                           (i)    adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1(A) o Atodlen 2 iddi;

                         (ii)    adrannau 6(4), 16(1), 17, 18, 26, 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([9]), a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru([10]); a

                       (iii)    adrannau 4(1), (2), (3), (4) ac (8) a 10 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009([11]); ac

(c)     i’r graddau y mae’n ymwneud â gweddill y rheoliadau a’r Atodlenni, adrannau 6(4), 16(1)(e), 17(1) a (2), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (4) i (6), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014.

(4) At ddibenion y darpariaethau a ganlyn, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Medi 2014

(a)     rheoliad 4;

(b)     rheoliad 12 ac Atodlen 4 i’r graddau (drwy gymhwyso, gyda rhai addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf) y maent yn galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r ddarpariaeth yn FIC a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ac yn galluogi apêl i gael ei gwneud yn erbyn hysbysiad o’r fath ac ymdrin â’r apêl honno, a’i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella o’r fath;

(c)     rheoliad 14 i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 7;

(d)     Atodlen 2;

(e)     Rhan 1 o Atodlen 5; ac

(f)      Rhan 1 o Atodlen 7.

(5) At ddibenion y darpariaethau a ganlyn, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Gorffennaf 2016

(a)     Rhan 3 o Atodlen 5; a

(b)     rheoliad 12 ac Atodlen 4 i’r graddau (drwy gymhwyso, gyda rhai addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf) y maent yngalluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r ddarpariaeth yn FIC a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 5 ac yn galluogi apêl i gael ei gwneud yn erbyn hysbysiad o’r fath ac ymdrin â’r apêl honno, a’i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella o’r fath.

(6) At ddibenion Rhan 2 o Atodlen 6, a rheoliad 13 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o Atodlen 6, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2018.

Dehongli

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “a gynigir i’w werthu” yr un ystyr a roddir i “offered for sale” yn Erthygl 44 ac mae “cynnig gwerthu” (“offers for sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “mass caterer” yn Erthygl 2(2)(d) ac mae “arlwywyr mawr” (“mass caterers”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw—

(a)     cyngor sir;

(b)     cyngor bwrdeistref sirol;

mae i “bwyd wedi ei ragbecynnu” yr ystyr a roddir i “prepacked food” yn Erthygl 2(2)(e);

ystyr “Cyfarwyddeb 1999/2/EC” (“Directive 1999/2/EC”) yw Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio([12]);

mae i “cyfrwng cyfathrebu o hirbell” yr ystyr a roddir i “means of distance communication” yn Erthygl 2(2)(u);

mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

mae i “gweithredwr busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” ym mhwynt 3 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

mae i “parod i’w fwyta” yr un ystyr a roddir i “ready for consumption” yn Erthygl 2(2)(d); ac

mae i “wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol” yr un ystyr a roddir i “prepacked for direct sale” yn Erthygl 2(2)(e).

(2) Ac eithrio fel y darperir fel arall

(a)     mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl yn gyfeiriad at Erthygl yn FIC, a

(b)     mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad yn gyfeiriad at Atodiad i FIC.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad at FIC, neu ddarpariaeth yn FIC (gan gynnwys cyfeiriad at Erthygl yn FIC neu Atodiad iddo ac y mae paragraff (2) yn gymwys iddo) mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn a restrir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Rhanddirymiad ynglŷn â llaeth a chynhyrchion llaeth

3. Nid yw’r gofynion a nodir yn Erthyglau 9(1) a 10(1) yn gymwys i laeth na chynhyrchion llaeth a gynigir mewn potel wydr pan fwriedir i’r botel wydr gael ei hailddefnyddio.

Rhanddirymiad ynglŷn â briwgig

4.(1) Nid yw’r gofynion a nodir ym mhwynt 1 oRan B o Atodiad VI yn atal briwgig nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion hyn rhag cael ei osod ar y farchnad gan ddefnyddio dynodiad briwgig os bydd y marc cenedlaethol yn Rhan 1 o Atodlen 2 yn ymddangos ar y label.

(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys i ffurf y marc cenedlaethol.

(3) Ym mharagraff (1)—

mae i “ar y label” yr un ystyr ag sydd i “on the labelling” ym mhwynt 2 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda’r diffiniad o “labelling” yn Erthygl 2(2)(j);

mae “ei osod ar y farchnad” (“placed on the market”) i’w ddehongli fel pe bai’n cymryd i ystyriaeth ystyr “placing on their national market” fel y’i defnyddir ym mhwynt 3 o Ran B o Atodiad VI.

Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc.

5.(1) Caniateir i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi ar gael y manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) ynglŷn â’r bwyd hwnnw drwy unrhyw ddull y mae’r gweithredwr hwnnw’n ei ddewis, gan gynnwys ar lafar, yn ddarostyngedig i baragraff (3).

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd perthnasol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell ac sydd

(a)     heb ei ragbecynnu,

(b)     wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir  y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu

(c)     wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.

(3) Pan fo gweithredwr busnes bwyd yn bwriadu rhoi’r manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) ynglŷn â bwyd perthnasol ar gael ar lafar, a bod sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn neu gymorth prosesu wrth weithgynhyrchu neu baratoi’r bwyd, rhaid i’r gweithredwr ddangos bod modd sicrhau manylion y sylwedd neu’r cynnyrch hwnnw drwy ofyn i aelod o’r staff.

(4) Rhaid i’r dangosiad a grybwyllir ym mharagraff (3) gael ei roi

(a)     ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu

(b)     ar hysbysiad, bwydlen, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.

(5) O ran bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r manylion yn Erthygl 9(1)(c) a roddwyd ar gael gan weithredwr busnes bwyd gael eu rhoi ar gael â chyfeiriad clir at enw’r sylwedd neu’r cynnyrch a restrir yn Atodiad II—

(a)     pan fo’r cynhwysyn neu’r cymorth prosesu perthnasol yn deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, a

(b)     pan fo’r manylion yn cael eu rhoi ar gael ac eithrio drwy ddull y darperir ar ei gyfer yn FIC.

(6) Yn y rheoliad hwn ystyr bwyd perthnasol (“relevant food”) yw bwyd y mae cynhwysyn neu gymorth prosesu a restrir yn Atodiad II, neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, wedi eu defnyddio wrth ei weithgynhyrchu neu ei baratoi ac yn dal yn bresennol yn y cynnyrch gorffenedig (hyd yn oed os yw mewn ffurf a addaswyd).

Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. – gofyniad cyffredinol i’w henwi

6.(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd) fel y’i darllenir gyda’r canlynol

(a)     Erthygl 17(1) i (4), a

(b)     yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw

                           (i)    Erthygl 17(5) a phwynt 1 o Ran B o Atodiad VI, a

                         (ii)    pwynt 3 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr ac sydd

(a)     heb ei ragbecynnu,

(b)     wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu

(c)     wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.

(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.

(4) Rhaid i’r manylion ymddangos

(a)     ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu

(b)     ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.

(5) Nid yw paragraff(4) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.

Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys cig a chynhwysion eraill

7.(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(d) (swm cynhwysion penodol), fel y’i darllenir gydag Erthygl 22 ac Atodiad VIII, o ran y cynhwysion yn y bwyd sy’n gig.

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd (heblaw bwyd a bennir yn Atodlen 3) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr, sy’n cynnwys cig ac unrhyw gynhwysyn arall ac sydd

(a)     heb ei ragbecynnu,

(b)     wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu

(c)     wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.

(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.

(4) Mae swm y cig sydd i’w bennu yn y manylion a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w bennu drwy gymryd i ystyriaeth y darpariaethau ynghylch cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII, gan gynnwys unrhyw addasiad tuag i lawr sy’n angenrheidiol mewn achos lle y mae cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol yn y bwyd yn fwy na’r gwerthoedd a ddangosir yn y tabl yn y pwynt hwnnw.

(5) Rhaid i’r manylion ymddangos

(a)     ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu

(b)     ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.

(6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.

(7) Yn y rheoliad hwn

ystyr “cig” (“meat”) yw cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau o famaliaid ac adar y cydnabyddir eu bod yn addas i’w bwyta gan bobl gyda’r feinwe y mae’n ei chynnwys yn naturiol neu feinwe ymlynol ond nid yw’n cynnwys cig a wahenir yn fecanyddol; ac

mae i “cig a wahenir yn fecanyddol” yr ystyr a roddir i “mechanically separated meat” ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n deillio o anifeiliaid([13]).

Bwydydd a arbelydrwyd

8.(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad, mewn swmp, gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos, ynghyd ag enw’r cynnyrch, ar arddangosiad neu hysbysiad uwchben y cynhwysydd y gosodir y cynhyrchion ynddo ar y farchnad neu wrth ochr y cynhwysydd hwnnw.

(2) Mae paragraff (1) yn gymwys

(a)     i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a

(b)     i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sy’n cynnwys cynhwysyn sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio.

(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos yn rhestr cynhwysion y cynnyrch hwnnw er mwyn dangos bod y cynnyrch wedi ei arbelydru.

(4) Mae paragraff (3) yn gymwys i gynnyrch a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr

(a)     sy’n cynnwys cynhwysyn cyfansawdd mewn achos lle y mae un o gynhwysion y cynhwysyn cyfansawdd hwnnw wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a

(b)     y byddai, mewn perthynas â’r cynhwysyn cyfansawdd hwnnw, ddarpariaethau pwynt 2 oRan E o Atodiad VII (sy’n nodi achosion lle nad yw rhestr o gynhwysion ar gyfer cynhwysion cyfansawdd yn orfodol) yn gymwys, oni bai am y gofyniad ym mharagraff (3).

(5) Y dangosiad perthnasol yw’r geiriau “irradiated” neu’r geiriau “treated with ionising radiation”.

(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol

(a)     cynnyrch a fu’n agored i ymbelydredd ïoneiddio a gynhyrchwyd gan ddyfeisiau mesur neu arolygu, ar yr amod nad yw’r dogn a amsugnwyd yn fwy na 0.01 Gy yn achos dyfeisiau arolygu sy’n defnyddio niwtronau a 0.5 Gy mewn achosion eraill, ar lefel ynni ymbelydredd uchaf o 10 MeV yn achos pelydr X, 14 MeV yn achos niwtronau a 5 MeV mewn achosion eraill, neu

(b)     cynnyrch a baratoir i gleifion y mae arnynt angen deietau sterilaidd o dan oruchwyliaeth feddygol.

(7) Yn y rheoliad hwn

mae i “cynnyrch” yr un ystyr ag sydd i “product” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC;

mae “gosod ar y farchnad” i’w ddehongli drwy gymryd i ystyriaeth ystyr “placed on the market” fel y’i defnyddir yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 1999/2/EC;

mae i “mewn swmp” yr un ystyr ag sydd i “in bulk” yn ail is-baragraff Erthygl 6(1)(a) o Gyfarwyddeb 1999/2/EC; ac

mae i “ymbelydredd ïoneiddio” yr un ystyr ag sydd i “ionising radiation” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC.

Gorfodi

9. Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Trosedd

10.(1) Mae person yn euog o droseddos yw’n methu â chydymffurfio

(a)     ag unrhyw rai o ddarpariaethau FIC a bennir ym mharagraff (2), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), neu

(b)     â rheoliad 5(5).

(2) Y darpariaethau yn FIC yw

(a)     Erthygl 9(1)(c), fel y’i darllenir hefyd gydag Atodiad II;

(b)     Erthygl 21(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 18(1) ac Atodiad II;

(c)     ail is-baragraff Erthygl 21(1), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 19(1) ac Atodiad II; a

(d)     Erthygl 44(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthygl 9(1)(c) a rheoliad 5.

Cosbi

11. Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 10 yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

12.(1) Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda'r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4, er mwyn

(a)     galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau a ganlyn

                           (i)    darpariaeth yn FIC a bennir yn Atodlen 5, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 10 fel y’i cymhwysir gan baragraff (1) a’i haddasu gan Ran 1 o Atodlen 4;

                         (ii)    rheoliad 5(3), (4) neu (5);

                       (iii)    rheoliad 6(1) neu (4);

                        (iv)    rheoliad 7(1), (4) neu (5); neu

                          (v)    rheoliad 8(1) neu (3); a

(b)     peri bod y methiant i gydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2) Mae is-adrannau (1) i (8) oadran 32([14]) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4, er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd

(a)     i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes neu a oedd darpariaeth yn FIC a bennir yn Atodlen 5 wedi ei thorri, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 32(1)(a) fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn a’i haddasu gan Ran 2 o Atodlen 4;

(b)     i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac

(c)     wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.

(3) Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf  (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 4, er mwyn galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(4) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda'r addasiadau (yn achos is-adrannau (1) a (3) o adran 39) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 4, er mwyn ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 5 o Atodlen 4 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(6) Mae paragraffau (1) i (4) heb ragfarn i gymhwyso adrannau 10, 32, 37 a 39 o’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir yn y paragraffau hynny.

Dirymiadau

13. Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir.

Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudol

14. Mae Atodlen 7 yn cael effaith.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

28 Awst 2014


 

   ATODLEN 1    Rheoliad 2(3)

Darpariaethau y Rheoliadau hyn sy’n cynnwys cyfeiriadau newidiadwy at FIC yn rhinwedd rheoliad 2(3)

Rheoliad 2(1) ac eithrio’r diffiniad o “FIC”

Rheoliad 3

Rheoliad 4(1) a (3)

Rheoliad 5(1), (3), (5) a (6)

Rheoliad 6(1)

Rheoliad 7(1) a (4)

Rheoliad 8(4)(b)

Rheoliad 10

Paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2

Atodlen 5

 

ATODLEN 2    Rheoliad 4

Y marc cenedlaethol ar gyfer y rhanddirymiad ynglŷn â briwgig

RHAN 1

Y marc cenedlaethol

 

¤ For UK market only

RHAN 2

Manylebau’r marc cenedlaethol

1. Caniateir defnyddio unrhyw fath o ffont ar gyfer y marc cenedlaethol cyhyd ag y bo’n glir i’w ddarllen.

2. Caniateir defnyddio ffont o unrhyw liw ar gyfer y marc cenedlaethol cyhyd ag y bo’n hawdd i’w weld.

3. Yn achos bwyd sydd wedi ei ragbecynnu, rhaid i faint y ffont a ddefnyddir ar gyfer y marc cenedlaethol beidio â bod yn llai na’r canlynol

(a)     yn achos pecyn neu gynhwysydd o faint y mae Erthygl 13(3) yn gymwys iddo, y maint ffont sy’n ofynnol ar gyfer manylion gorfodol o dan Erthygl 13(3), a

(b)     yn achos unrhyw becyn neu gynhwysydd arall, y maint ffont sy’n ofynnol ar gyfer manylion gorfodol o dan Erthygl 13(2).

4. Caiff y marc cenedlaethol gynnwys y testun Cymraeg “Ar gyfer marchnad y DU yn unig” yn ychwanegol at y testun Saesneg yn Rhan 1.

                    ATODLEN 3        Rheoliad 7

Bwydydd nad yw rheoliad 7 yn gymwys iddynt

1. Cig amrwd nad ychwanegwyd cynhwysyn ato ac eithrio ensymau proteolytig.

2. Cyw iâr wedi ei rewi ac wedi ei rewi’n gyflym y mae Erthygl 15 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 yn nodi rheolau manwl ynglŷn â chymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata cig dofednod([15]) yn gymwys iddo ac nad yw ei gynhwysiad dŵr yn fwy na’r gwerthoedd sy’n dechnegol anochel a bennir yn unol â’r hyn y darperir ar ei gyfer yn yr Erthygl honno.

3. Toriadau cig dofednod ffres, wedi eu rhewi ac wedi eu rhewi’n gyflym y mae Erthygl 20 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 yn gymwys iddynt ac nad yw eu cynhwysiad dŵr yn fwy na’r gwerthoedd sy’n dechnegol anochel a bennir yn unol â’r hyn y darperir ar ei gyfer yn yr Erthygl honno.

4. Brechdanau, rholion wedi eu llenwi a chynhyrchion wedi eu llenwi sy’n debyg o ran eu natur i frechdanau a rholion wedi eu llenwi, sy’n barod i’w bwyta heb ragor o brosesu, ac eithrio cynhyrchion sy’n cynnwys cig a werthir o dan yr enw byrgyr”, “byrgyr rhad neu hambyrgyr (p’un a oleddfir hwy gan eiriau eraill neu beidio).

5. Pitsas a chynhyrchion tebyg sydd â thopin.

6. Unrhyw fwyd o’r enw “potes”, “grefi” neu cawl”, p’un a oleddfir hwy gan eiriau eraill neu beidio.

7. Bwyd sy’n gydosodiad o ddau neu ragor o gynhwysion na fu’n destun unrhyw broses neu driniaeth ar ôl cael ei gydosod, ac a werthir i’r defnyddiwr terfynol ar ffurf cyfran unigol y bwriedir iddi gael ei bwyta heb ragor o drin neu brosesu.

                    ATODLEN 4       Rheoliad 12

Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf

RHAN 1

Addasu adran 10(1)

1. Yn lle adran 10(1) (hysbysiadau gwella) rhodder

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a provision specified in subsection (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)   state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)   specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)   specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)   require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

(1A) The provisions are—

(a)   a provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council on the provision of food information to consumers([16]) specified in entry 1, 3, 5 to 11, 23 to 27, 29, 31 or 66 of the table in Part 2 of Schedule 5 to the Food Information (Wales) Regulations 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations), except to the extent that the provision applies to the mandatory particular relating to net quantity required by Article 9(1)(e) of Regulation (EU) No 1169/2011, as read with Article 23 of, and Annex IX to, that Regulation;

(b)   a provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council specified in entry 2, 67 or 68 of the table in Part 2 of Schedule 5 to the Food Information (Wales) Regulations 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations), except to the extent that the provision applies to food information relating to quantity;

(c)   any other provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council specified in Schedule 5 to the Food Information (Wales) Regulations 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations); or

(d)   any of the following provisions of the Food Information (Wales) Regulations 2014—

                       (i)  regulation 5(3), (4) or (5);

                      (ii)  regulation 6(1) or (4);

                     (iii)  regulation 7(1), (4) or (5); or

                     (iv)  regulation 8(1) or (3).

RHAN 2

Addasu adran 32(1)

2. Yn lle paragraffau (a) i (c) o adran 32(1) (pwerau mynediad) rhodder

(a) to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there is or has been on the premises any contravention of—

                       (i)  a provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council on the provision of food information to consumers specified in entry 1, 3, 5 to 11, 23 to 27, 29, 31 or 66 of the table in Part 2 of Schedule 5 to the Food Information (Wales) Regulations 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations), except to the extent that the provision applies to the mandatory particular relating to net quantity required by Article 9(1)(e) of Regulation (EU) No 1169/2011, as read with Article 23 of, and Annex IX to, that Regulation;

                      (ii)  a provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council specified in entry 2, 67 or 68 of the table in Part 2 of Schedule 5 to the Food Information (Wales) Regulations 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations), except to the extent that the provision applies to food information relating to quantity; and

                     (iii)  any other provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council specified in Schedule 5 to the Food Information (Wales) Regulations 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations); and

(b)   to enter any business premises, whether within or outside of the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention within that area of any such provisions;.

RHAN 3

Addasu adran 37(1) a (6)

3. Yn lle adran 37(1) (apelio) rhodder

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 12(1) of, and Part 1 of Schedule 4 to, the Food Information (Wales) Regulations 2014, may appeal to the magistrates’ court.”

4. Yn adran 37(6)—

(a)     yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”, a

(b)     ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

RHAN 4

Addasu adran 39(1) a (3)

5. Yn lle adran 39(1) (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) rhodder

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 12(1) of, and Part 1 of Schedule 4 to, the Food Information (Wales) Regulations 2014, the court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.

6. Yn adran 39(3) hepgorer “for want of prosecution”.

 


RHAN 5

Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill yn y Ddeddf

 

Colofn 1

Y ddarpariaeth yn y Ddeddf

Colofn 2

Yr addasiadau

Adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Food Information (Wales) Regulations 2014”

Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)

Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 12(1) of the Food Information (Wales) Regulations 2014, or regulation 10 of those Regulations”

Adran 21([17]) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)

Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 12(1) of the Food Information (Wales) Regulations 2014, or regulation 10 of those Regulations”

Yn is-adran (2), yn lle “section 14 or 15 above” rhodder “regulation 10 of the Food Information (Wales) Regulations 2014”

Adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes)

Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “regulation 10 of the Food Information (Wales) Regulations 2014”

Adran 29 (caffael samplau)

Ym mharagraff (b)(ii), ar ôl “under section 32 below”, mewnosoder “, including under section 32 as applied and modified by regulation 12(2) of, and Part 2 of Schedule 4 to, the Food Information (Wales) Regulations 2014”

Adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth tystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)

Yn lle “this Act” rhodder “the Food Information (Wales) Regulations 2014”

Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Food Information  (Wales) Regulations 2014”

Adran 35(1)([18]) a (2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 12(5) of, and Part 5 of Schedule 4 to, the Food Information (Wales) Regulations 2014,”

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

“(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 12(1) of the Food Information (Wales) Regulations 2014, shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.”

Yn is-adran (2)—

(a)      yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 12(5) of, and Part 5 of Schedule 4 to, the Food Information (Wales) Regulations 2014,”; a

(b) ym mharagraff (b), yn lle “relevant amount” rhodder “statutory maximum”

Adran 36 (troseddau corff corfforaethol)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 12(1) of the Food Information (Wales) Regulations 2014, or regulation 10 of those Regulations,”

Adran 36A([19]) (troseddau partneriaethau’r Alban)

Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 12(1) of the Food Information (Wales) Regulations 2014, or regulation 10 of those Regulations,”

Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)

Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Food Information (Wales) Regulations 2014”

ATODLEN 5              Rheoliad 12

Hysbysiadau gwella – darpariaethau FIC penodedig

RHAN 1

Y ddarpariaeth yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hi ar ac ar ôl 19 Medi 2014

 

Y ddarpariaeth yn FIC

Y darpariaethau sydd i’w darllen gyda’r ddarpariaeth yn FIC

Erthygl 17(5) i’r graddau y mae’n gymwys i’r gofynion yn Rhan B o Atodiad VI ynghylch y dynodiad “minced meat” (gofynion ynghylch y dynodiad “minced meat” a’r manylion y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd ag ef)

Erthyglau 1(3) a 6 a thrydydd is-baragraff Erthygl 54(1), ail is-baragraff Erthygl 55, Rhan B o Atodiad VI, rheoliad 4 ac Atodlen 2

RHAN 2

Y darpariaethau yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2014

 

Rhif

Y ddarpariaeth yn FIC

Y darpariaethau sydd i’w darllen gyda’r darpariaethau yn FIC

1.

Erthygl 6 (gofyniad sylfaenol bod rhaid i wybodaeth am fwyd gyd-fynd â bwyd)

Erthyglau 1(3) a 30(2) a (3), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Erthyglau eraill FIC a restrir yng Ngholofn 1, fel y bo’n briodol

2.

Erthygl 7(1) (gwaharddiad ar wybodaeth gamarweiniol)

Erthyglau 1(3), 6 a 7(4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

3.

Erthygl 7(2) (gofyniad ynglŷn â gwybodaeth gywir, glir a hawdd ei deall)

Erthyglau 1(3), 6 a 7(4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

4.

Erthygl 7(3) (gwahardd gwybodaeth am fwyd rhag priodoli manteision iechyd i unrhyw fwyd yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol)

Erthyglau 1(3), 6 a 7(4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

5.

Erthygl 8(2) (gofyniad bod rhaid i weithredwr busnes bwyd sicrhau bod gwybodaeth am fwyd yn bresennol ac yn gywir)

Erthyglau 1(3), 6 ac 8(1) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

6.

Erthygl 8(3) (gofyniad bod rhaid i weithredwr busnes bwyd beidio â chyflenwi bwyd nad yw’n cydymffurfio)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

7.

Erthygl 8(4) (cyfyngiadau ar addasu gwybodaeth sy’n cyd-fynd â bwyd)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

8.

Erthygl 8(5) (gofyniad bod rhaid sicrhau a dilysu y cydymffurfir â’r gyfraith ar wybodaeth am fwyd etc.)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

9.

Erthygl 8(6) (gofyniad bod rhaid trosglwyddo gwybodaeth ynglŷn â bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

10.

Erthygl 8(7) (gofyniad ynghylch y manylion gorfodol y gofynnir amdanynt gan Erthyglau 9 a 10)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

11.

Erthygl 8(8) (gofyniad bod rhaid i weithredwr busnes bwyd ddarparu digon o wybodaeth i weithredwyr busnes bwyd eraill)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

12.

Erthygl 9(1)(a) (dangosiad gorfodol ynglŷn ag enw’r bwyd)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 17, 22(1)(a) a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad VI a rheoliad 3

13.

Erthygl 9(1)(b) (dangosiad gorfodol ynglŷn â’r rhestr cynhwysion)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11 ac 16(1) a (2), is-baragraff cyntaf Erthygl 16(4), Erthyglau 18, 19(1), 20 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiadau VI a VII a rheoliad 3

14.

Erthygl 9(1)(c) (dangosiad gorfodol ynglŷn â chynhwysion a chynorthwyon prosesu sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11, 16(1) a (2), 18(1), 21(1) a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad II a rheoliad 3

15.

Erthygl 9(1)(d) (dangosiad gorfodol ynglŷn â swm cynhwysion penodol neu gategorïau penodol o gynhwysion)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11, 16(1) a (2), 22 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad VIII a rheoliad 3

16.

Erthygl 9(1)(f) (dangosiad gorfodol ynglŷn â dyddiad isafswm parhauster neu’r dyddiad “use by”)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 24 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), pwyntiau 1 a 2 o Atodiad X a rheoliad 3

17.

Erthygl 9(1)(g) (dangosiad gorfodol ynglŷn ag unrhyw amodau storio arbennig, amodau defnyddio, neu’r ddau)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 25 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 3

18.

Erthygl 9(1)(h) (dangosiad gorfodol ynglŷn ag enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithredwr busnes bwyd)

Erthyglau 1(3), 6, 8(1), 9(2), 16(1) a (2) a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 3

19.

Erthygl 9(1)(i) (dangosiad gorfodol ynglŷn â’r wlad tarddiad neu’r tarddle)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 26(1) a (2) a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 3

20.

Erthygl 9(1)(j) (dangosiad gorfodol ynglŷn â chyfarwyddiadau defnyddio)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 27 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 3

21.

Erthygl 9(1)(k) (dangosiad gorfodol ynglŷn â chryfder alcoholaidd gwirioneddol diodydd sy’n cynnwys mwy na 1.2% o alcohol yn ôl cyfaint)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11, 16(1) a (2) a 28, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XII

22.

Erthygl 10(1) (manylion gorfodol ychwanegol ar gyfer mathau penodol o fwyd)

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad III

23.

 

 

 

 

 

24.

Erthygl 12(1) (argaeledd a lleoliad gwybodaeth orfodol am fwyd)

 

 

 

 

Erthygl 12(2) (gofyniad cyffredinol i wybodaeth orfodol am fwyd ymddangos yn uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth fwyd wedi ei ragbecynnu)

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Erthygl 12(2) yn achos bwydydd wedi eu rhagbecynnu, Erthyglau 12(5) a 44 yn achos bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu ac Erthyglau 14 a 44 ar gyfer bwydydd y cynigir eu gwerthu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

25.

Erthygl 13(1) (gofyniad cyffredinol ynglŷn â dangos manylion gorfodol)

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac, yn achos bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc., rheoliad 5

26.

Erthygl 13(2) (gofyniad ynglŷn â dangos manylion gorfodol y cyfeirir atynt yn Erthygl 9(1)(a) i (l))

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad IV, ac, o ran Erthygl 13(2) fel y mae’n gymwys i ddangos datganiad gorfodol ynglŷn â maethiad, ail is-baragraff Erthygl 55

27.

Erthygl 13(3) (maint ffont manylion gorfodol ar becynnau llai)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

28.

Erthygl 13(5) (gofynion ynglŷn â maes gwelededd)

Erthyglau 1(3), 6, 13(6) ac 16(1) a (2) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

29.

Erthygl 14(1) (gwerthu bwydydd wedi eu rhagbecynnu o hirbell)

Erthyglau 1(3), 6, 9 a 14(3) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

30.

Erthygl 14(2) (gwerthu bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu o hirbell)

Erthyglau 1(3), 6, 14(1) a 42 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

31.

Erthygl 15(1) (gofynion ynglŷn ag iaith)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

32.

Erthygl 17(1) (enw’r bwyd)

Erthyglau 1(3), 6 a 9(1), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), rheoliad 4 ac Atodlen 2

33

Erthygl 17(2) (defnyddio’r enw a ddefnyddir ar gyfer bwyd yn yr Aelod-wladwriaeth sy’n ei gynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth arall: yr angen am wybodaeth ddisgrifiadol arall yn ychwanegol at enw’r bwyd mewn achosion penodol)

Erthyglau 1(3), 6, 9(1) a 17(1) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

34.

Erthygl 17(3) (gwaharddiad mewn achosion eithriadol penodol rhag defnyddio enw a ddefnyddir ar gyfer bwyd mewn Aelod-wladwriaeth sy’n ei gynhyrchu wrth farchnata’r bwyd hwnnw mewn Aelod-wladwriaeth arall)

Erthyglau 1(3), 6, 9(1) a 17(1) a (2) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

35.

Erthygl 17(4) (gwaharddiad rhag gosod enw arall yn lle enw bwyd)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

36.

Erthygl 17(5) (gofynion ynglŷn ag enw bwyd a manylion y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd ag ef) ac eithrio i’r graddau y mae’n gymwys i’r gofynion penodol yn Rhan B o Atodiad VI ynghylch dynodiad “minced meat”

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad VI

37.

Erthygl 18(1) (gofynion ynglŷn â’r rhestr cynhwysion)

Erthyglau 1(3), 6, 18(4), 19(1) ac 20, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad VII, rheoliad 8 ac is-baragraff cyntaf paragraff 5 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC ynglŷn â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion tebyg penodol y bwriedir i bobl eu hyfed([20])

38.

Erthygl 18(2) (gofyniad bod rhaid dynodi cynhwysion yn ôl eu henw penodol)

Erthyglau 1(3), 6, 17, 18(4) a 19(1), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiadau VI a VII

39.

Erthygl 18(3) (gofyniad ynglŷn â chynhwysion sy’n nanoddefnyddiau)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

40.

Erthygl 21(1) (gofynion ynglŷn â sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergedd neu anoddefedd)

Erthyglau 1(3), 6, 9(1)(c) a 18(1), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad II ac, yn achos bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc., rheoliad 5

41.

Erthygl 22(1) (gofyniad ynglŷn â’r angen i ddarparu dangosiad meintiol o gynhwysyn)

Erthyglau 1(3), 6 a 22(2), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad VIII

42.

Erthygl 22(2) (rheolau technegol ynglŷn â dangosiad meintiol o gynhwysion)

Erthyglau 1(3), 6 a 22(1), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad VIII

43.

Erthygl 24(1), y frawddeg gyntaf (gofyniad ynglŷn â dyddiadau “use by”)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

44.

Erthygl 24(2) (gofyniad i fynegi dyddiad isafswm parhauster, dyddiad “use by” a dyddiad rhewi mewn modd penodol)

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad X

45.

Erthygl 25(1) (gofyniad bod rhaid dangos amodau storio neu amodau defnyddio arbennig, neu’r ddau, ar fwyd)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

46.

Erthygl 25(2) (gofyniad bod rhaid dangos amodau storio priodol neu erbyn pa bryd y dylai bwyd gael ei fwyta ar ôl agor y pecyn sy’n cynnwys y bwyd neu’r ddau)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

47.

Erthygl 26(2)(a) (gofyniad ynglŷn â dangosiad gorfodol ynglŷn â gwlad tarddiad neu darddle mewn achosion penodol)

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XI

48.

Erthygl 27(1) (dangosiad ynglŷn â chyfarwyddiadau defnyddio)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

49.

Erthygl 28(2) (dangosiad o gryfder alcoholaidd yn ôl cyfaint ar gyfer diodydd sy’n cynnwys mwy nag 1.2% o alcohol yn ôl cyfaint)

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XII

50.

Erthygl 30(1) (cynnwys y datganiad gorfodol am faethiad)

Erthyglau 1(3), 6, 29, 31(1) (fel y’i darllenir gydag Atodiad XIV) a 31(3), is-baragraff cyntaf Erthygl 31(4), Erthyglau 32(1) (fel y’i darllenir gydag Atodiad XV), 32(2), 33(1) a 35(1) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

51.

Erthygl 31(1) (ffactorau trosi i’w defnyddio i gyfrifo gwerth egni)

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XIV

52.

Erthygl 31(3), yr is-baragraff cyntaf (gofyniad bod rhaid i’r gwerth egni a’r symiau o faetholion gyfeirio at y bwyd fel y’i gwerthir ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn ail is-baragraff Erthygl 31(3))

Erthyglau 1(3), 6 a 30(1) i (5) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

53.

Erthygl 31(4), yr is-baragraff cyntaf (gofyniad bod rhaid i’r gwerthoedd yn y datganiad fod yn werthoedd cyfartalog wedi eu seilio ar fethodoleg a nodir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 31(4))

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

54.

Erthygl 32(1) (gofyniad bod rhaid defnyddio’r unedau mesur a restrir yn Atodiad XV ar gyfer gwerth egni a symiau maetholion)

Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XV

55.

Erthygl 32(2) (gwerth egni a swm maetholion i’w mynegi fesul 100 gram neu fesul 100 mililitr)

Erthyglau 1(3), 6, 33(1), (2) a (3), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a Rhan B o Atodiad XIII

56.

Erthygl 32(3) (datganiad ynglŷn â fitaminau a mwynau hefyd i’w fynegi fel canran o’r cymeriant cyfeirio)

Erthyglau 1(3), 6 a 30(2)(f), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a Rhan A o Atodiad XIII

57.

Erthygl 32(5) (gofyniad ynglŷn â datganiad ychwanegol ynglŷn â chymeriant cyfeirio oedolyn cyfartalog)

Erthyglau 1(3), 6 a 32(4) (fel y’i darllenir gyda Rhan B o Atodiad XIII) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

58.

Erthygl 33(1) (gofynion mewn achosion lle gellir mynegi gwerth egni a swm maetholion fesul cyfran, fesul uned fwyta neu yfed, neu fesul cyfran a fesul uned fwyta neu yfed ill dau, yn ychwanegol at neu yn hytrach na fesul 100 gram neu fesul 100 mililitr)

Erthyglau 1(3), 6 a 32(2), (3) a (4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

59.

Erthygl 33(2), yr ail is-baragraff (gofyniad bod rhaid mynegi gwerth egni fesul 100 gram neu fesul 100 mililitr a fesul cyfran neu fesul uned fwyta neu yfed pan fydd gwybodaeth am egni, braster, braster dirlawn, siwgrau a halen yn cael ei hailadrodd yn wirfoddol yn y prif faes gwelededd, a bod symiau’r maetholion wedi eu mynegi fesul cyfran neu fesul uned fwyta neu yfed yn unig)

Erthyglau 1(3), 6, 30(3)(b) a 32(2), is-baragraff cyntaf Erthygl 33(2) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

60.

Erthygl 33(4) (gofyniad bod rhaid i’r gyfran neu’r uned a ddefnyddir fod yn agos at y datganiad ynglŷn â maethiad)

Erthyglau 1(3), 6 a 33(1) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

61.

Erthygl 34(1) (dangos y datganiad gorfodol ynglŷn â maethiad ac unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir yn unol ag Erthygl 30(2) – maes gwelededd, fformat a threfn dangos)

Erthyglau 1(3), 6 a 30(1) a (2), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XV

62.

Erthygl 34(2) (dangos y datganiad gorfodol ynglŷn â maethiad ac unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir yn unol ag Erthygl 30(2) – fformat ac aliniad y rhifau)

Erthyglau 1(3), 6, a 30(1) a (2), ail is-baragraff Erthygl 34(3), Erthygl 34(4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

63.

Erthygl 34(3), yr is-baragraff cyntaf (dangos gwybodaeth am faethiad mewn achos lle’r ailadroddir gwybodaeth benodol am faethiad (ar sail wirfoddol) yn unol ag Erthygl 30(3))

Erthyglau 1(3), 6 a 30(3), ail is-baragraff Erthygl 34(3) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

64.

Erthygl 34(5), is-baragraff cyntaf (gofyniad bod rhaid i ddangosiad o werth egni neu swm maetholion dibwys, pan ddefnyddir ef, fod yn agos at y datganiad ynglŷn â maethiad, pan geir un)

Erthyglau 1(3), 6 a 30(1) i (5) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

65.

Erthygl 35(1) (gofynion pan ddefnyddir mathau ychwanegol o fynegi ac o ddangos gwerth egni a swm maetholion)

Erthyglau 1(3), 6, 7, 30(1) i (5), 32(2) a (4), 33 a 34(2), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad VIII

66.

Erthygl 36(1) (gofynion y mae’n rhaid i wybodaeth wirfoddol gydymffurfio â hwy)

Erthyglau 1(3) a 6, adrannau 2 a 3 o Bennod IV ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

67.

Erthygl 36(2) (gofynion ychwanegol y mae’n rhaid i wybodaeth wirfoddol gydymffurfio â hwy)

Erthyglau 1(3), 6 a 7 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

68.

Erthygl 37 (dangos gwybodaeth wirfoddol am fwyd – argaeledd lle)

Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)

69.

Erthygl 44(1)(a) (darparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd nad yw wedi ei ragbecynnu)

Erthyglau 1(3), 6 a 9(1)(c), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 5

70.

Erthygl 54(2) (gofyniad bod rhaid cydymffurfio â darpariaethau ynglŷn â chynnwys, cyfrifo, mynegi a dangos pan ddarperir gwybodaeth am faethiad ar sail wirfoddol yn ystod y cyfnod ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2014 hyd at a chan gynnwys 12 Rhagfyr 2016)

Erthyglau 1(3), 6 a 29 i 35

RHAN 3

Y ddarpariaeth yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hi ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2016

 

Y ddarpariaeth yn FIC

Y darpariaethau sydd i’w darllen gyda’r ddarpariaeth yn FIC

Erthygl 9(1)(l) (datganiad gorfodol ynglŷn â maethiad)

Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11 ac 16, adran 3 o Bennod IV, Erthygl 40, ail is-baragraff Erthygl 54(1), ail is-baragraff Erthygl 55,  Atodiad V a rheoliad 3

ATODLEN 6                           Rheoliad 13

Dirymiadau

RHAN 1

Dirymiadau sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014

 

Rhif

Yr Offerynnau Statudol a ddirymir

Cyfeirnodau

Graddfa’r dirymiad

1.

Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

O.S. 1996/1499([21])

Y Rheoliadau cyfan ac eithrio—

(a)     rheoliad 43;

(b)     yn Atodlen 8

                           (i)    y cofnodion yn Rhan I o Atodlen 8 ynglŷn â’r disgrifiadau “alcohol-free”, “dealcoholised”, “low alcohol” (neu unrhyw air neu ddisgrifiad arall sy’n awgrymu bod y ddiod a ddisgrifir yn isel o ran alcohol) a “non-alcoholic”;

                         (ii)    Rhan II; a

                       (iii)    Rhan III; ac

(c)     gweddill y Rheoliadau at ddibenion y darpariaethau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b), gan gynnwys

                           (i)    yn rheoliad 2(1), y diffiniadau o “the Act”, “advertisement”, “cheese”, “clotted cream”, “cream”, “ingredient”, “labelling”, “milk”, “sell”, “semi-skimmed milk”, “skimmed milk” a “wine;

                         (ii)    rheoliad 3(1) a (3);

                       (iii)    rheoliad 42;

                        (iv)    rheoliad 44(1)(b);

                          (v)    rheoliad 45;

                        (vi)    rheoliad 48; a

                      (vii)    rheoliad 50(1).

     


 

2.

Rheoliadau Bara a Blawd 1998

O.S. 1998/141([22])

Rheoliadau 5(3) ac 11

3.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) 1998

O.S. 1998/1398([23])

Y Rheoliadau cyfan ac eithrio rheoliadau 2 ac 11

4.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) 1999

O.S. 1999/747([24])

Y Rheoliadau cyfan ac eithrio rheoliadau 2 ac 11

5.

Rheoliadau Ychwanegion Amrywiol Bwyd (Diwygio) 1999

O.S. 1999/1136([25])

Yn rheoliad 14(1), y geiriau “the Food Labelling Regulations 1996” a’r cyfan o reoliad 14(3)

6.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Rhif 2) 1999

O.S. 1999/1483

Y Rheoliadau cyfan

7.

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Diwygio) 1999

O.S. 1999/1603([26])

Y Rheoliadau cyfan

8.

Rheoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001

O.S. 2001/1232 (Cy. 66)([27])

Y Rheoliadau cyfan

9.

Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001

O.S. 2001/1440 (Cy. 102)([28])

Rheoliadau 6 ac 11(1) a (2)(e)

10.

Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001

O.S. 2001/3909 (Cy. 321)

Y Rheoliadau cyfan

11.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

O.S. 2003/832 (Cy. 104)

Y Rheoliadau cyfan

12.

Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003

O.S. 2003/3037 (Cy. 285)([29])

Rheoliadau 7(1) ac 11(1) a (2)(dd)

13.

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003

O.S. 2003/3044 (Cy. 288)([30])

Rheoliadau 6 a 10(2)(e) a (4)

14.

Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003

O.S. 2003/3047 (Cy. 290)([31])

Rheoliadau 6 a 10(2)

 

 

 

 

15.

Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy’n ymwneud â Labelu) (Cymru) 2004

O.S. 2004/249 (Cy. 26)([32])

Y Rheoliadau cyfan

16.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2004

O.S. 2004/2558 (Cy. 229)

Y Rheoliadau cyfan

17.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2004

O.S. 2004/3022 (Cy. 261)([33])

Y Rheoliadau cyfan

18.

Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005

O.S. 2005/1224 (Cy. 82)([34])

Y Rheoliadau cyfan

19.

 

 

20.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

O.S. 2005/1309 (Cy. 91)

 

O.S. 2006/31 (Cy. 5)([35])

Y Rheoliadau cyfan

 

 

Yn Atodlen 7, paragraffau 12 i 14.

 

21.

 

 

22.

Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007

O.S. 2007/2611 (Cy. 222)([36])

 

O.S. 2007/3165 (Cy. 276)([37])

Rheoliad 8

 

 

Rheoliad 22(2) a (3)

23.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2008

O.S. 2008/1268 (Cy. 128)([38])

Y Rheoliadau cyfan

 

 

 

 

24.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009

O.S. 2009/2705 (Cy. 224)([39])

Y Rheoliadau cyfan

25.

Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009

O.S. 2009/3377 (Cy. 299)([40])

Rheoliad 7

26.

Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010

O.S. 2010/1492 (Cy. 135)([41])

Rheoliad 9

27.

Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010

O.S. 2010/2922 (Cy. 243)([42])

Rheoliad 7

 

 

 

 

28.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2011

O.S. 2011/465 (Cy. 70)

Y Rheoliadau cyfan

29.

Rheoliadau Bwyd (Diwygio Amrywiol a Dirymu) (Cymru) 2013

O.S. 2013/545 (Cy. 58)

Y Rheoliadau cyfan

30.

 

 

 

 

 

31.

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013

O.S. 2013/2591 (Cy. 255)

 

 

 

 

2013/2750 (Cy. 267)

Rheoliad 20

 

 

 

 

 

Paragraff 1 o Atodlen 15

 

 

 

 

RHAN 2

Dirymiadau sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2018

 

Rhif

Yr Offerynnau Statudol a ddirymir

Cyfeirnodau

Graddfa’r dirymiad

1.

Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

O.S. 1996/1499([43])

Y Rheoliadau cyfan

2.

 

3.

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) 1998

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) 1999

O.S. 1998/1398([44])

 

O.S. 1999/747([45])

Y Rheoliadau cyfan

 

Y Rheoliadau cyfan


ATODLEN 7                 Rheoliad 14

Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudol

RHAN 1

Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill sy’n dod i rym ar 19 Medi 2014

Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

1. Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996([46]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2. Yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II), ym mhob un o is-baragraffau (h), (i) a (j), yn lle “Commission Regulation (EC) No 607/2009” hyd at y diwedd rhodder “Commission Regulation (EC) No 607/2009 laying down certain detailed rules for the implementation of Council Regulation (EC) No 479/2008 as regards protected designations of origin and geographical indications, traditional terms, labelling and presentation of certain wine sector products([47]);”.

3. Yn lle rheoliad 41(4) (darpariaethau atodol sy’n ymwneud â labeli maeth) rhodder

(4) Where nutrition labelling not being prescribed nutrition labelling is given, it must be given in the manner specified in paragraph (4A) or (4B).

(4A) The nutrition labelling must be given in all respects as if it were prescribed nutrition labelling except that in applying the requirements for prescribed nutrition labelling described in Schedule 7, Part II of that Schedule is to be read as if—

(a)   in paragraph 1, the words “or that is labelled as provided for in regulation 41(4B)” were inserted after the words “paragraph 2 below applies”,

(b)   in paragraph 1(a)(ii), the words from “provided that” to the end of that paragraph were omitted, and

(c)   paragraph 1(d) were omitted.

(4B) The nutrition labelling must be given in accordance with Articles 29 to 35 of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council on the provision of food information to consumers, amending Regulations (EC) No 1924/2006 and (EC) No 1925/2006 of the European Parliament and of the Council, and repealing Commission Directive 87/250/EEC, Council Directive 90/496/EEC, Commission Directive 1999/10/EC, Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council, Commission Directives 2002/67/EC and 2008/5/EC and Commission Regulation (EC) No 608/2004.

Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996

4. Mae Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996([48]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

5. Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “first seller established within the European Union”, yn lle “Council Directive 89/396/EEC([49])” rhodder “Directive 2011/91/EU of the European Parliament and of the Council on indications or marks identifying the lot to which a foodstuff belongs([50])”.

Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007

6. Mae Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007([51]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

7. Yn rheoliad 4(2)(d) (tramgwyddau a chosbau), ar ôl wedi’u hychwanegu atynt)”, mewnosoder “, fel y’i darllenir gydag is-baragraff cyntaf Erthygl 54(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004([52])”.

Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

8. Mae Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007([53]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

9. Yn rheoliad 5(2)(ch) (tramgwyddau a chosbau), ar ôl “(gofynion ar gyfer gwybodaeth faethol)”, mewnosoder “, fel y’i darllenir gydag is-baragraff cyntaf Erthygl 54(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004”.

RHAN 2

Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014

Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

10. Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996([54]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

11. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o  “ingredient” rhodder

““ingredient” has the meaning given in Article 2(2)(e) of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council on the provision of food information to consumers as amended from time to time;”.

12. Yn rheoliad 3 (esemptiadau), yn lle paragraff (1) rhodder

“(1) This regulation does not apply to a food that is brought into Wales from another part of the United Kingdom, an EEA State (other than the United Kingdom), a member State (other than the United Kingdom) or from the Republic of Turkey in which it was lawfully produced or marketed.”

13. Yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol), Rhan I

(a)     yn ail golofn y cofnod ynglŷn â’r disgrifiad “alcohol-free”, yn lle is-baragraff  (b) rhodder

(b) the drink is marked or labelled with—

                       (i)  an indication of its maximum alcoholic strength in a form comprising the words “not more than” followed by a figure to not more than one decimal place indicating its maximum alcoholic strength and the symbol “% vol.” (required form 1), “alcohol % vol.” (required form 2), or “alc. % vol.” (required form 3), or

                      (ii)  in an appropriate case, an indication that it contains no alcohol.”;

(b)     yn ail golofn y cofnod ynglŷn â’r disgrifiad  “dealcoholized”, yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b) the drink is marked or labelled with—

                       (i)  an indication of its maximum alcoholic strength in required form 1, 2 or 3, or

                      (ii)  in an appropriate case, an indication that it contains no alcohol,”; ac

(c)     yn ail golofn y cofnod ynglŷn â’r disgrifiad “low alcohol” (neu unrhyw air neu ddisgrifiad arall sy’n awgrymu bod y ddiod a ddisgrifir yn isel o ran alcohol), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b) an indication of its maximum alcoholic strength in required form 1, 2 or 3.

Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996

14. Mae Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996([55]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

15. Yn lle rheoliad 2 (dehongli) rhodder

2. In these Regulations—

“the Act” means the Food Safety Act 1990;

“date of minimum durability” is to be construed taking into account the definition of “date of minimum durability of food” in Article 2(2)(r) of Regulation (EU) No 1169/2011;

“first seller established within the Community” has the same meaning as in Directive 2011/91/EU of the European Parliament and of the Council on indications or marks identifying the lot to which a foodstuff belongs;

“food” means food, within the meaning of the Act, intended for sale for human consumption;

“ice cream” has the same meaning as in Directive 2011/91/EU of the European Parliament and of the Council;

“lot” means a batch of sales units of food produced, manufactured or packaged under similar conditions;

“lot marking indication” means an indication which allows identification of the lot to which a sales unit of food belongs;

“prepacked food” has the meaning given in Article 2(2)(e) of Regulation (EU) No 1169/2011;

“prepacked for immediate sale” has the same meaning as “prepacked for direct sale” in Regulation (EU) No 1169/2011;

“Regulation (EU) No 1169/2011” means Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council on the provision of food information to consumers, amending Regulations (EC) No 1924/2006 and (EC) No 1925/2006 of the European Parliament and of the Council, and repealing Commission Directive 87/250/EEC, Council Directive 90/496/EEC, Commission Directive 1999/10/EC, Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council, Commission Directives 2002/67/EC and 2008/5/EC and Commission Regulation (EC) No 608/2004;

“sell” includes offer or expose for sale and have in possession for sale, and “sale” and “sold” are to be construed accordingly;

“ultimate consumer” has the same meaning as “final consumer” in point 18 of Article 3 of Regulation (EC) No 178/2002 of the European Parliament and of the Council laying down the general principles and requirements of food law, establishing the European Food Safety Authority and laying down procedures in matters of food safety([56]);

““use by” date” has the same meaning as in Regulation (EU) No 1169/2011.

16. Yn rheoliad 4 (eithriadau ar gyfer mathau penodol o werthu ac unedau gwerthu)—

(a)     yn is-baragraff (e), yn lle “edible ice” rhodder “ice cream”; a

(b)     yn is-baragraff (g)—

                           (i)    yn lle “an indication of minimum durability” rhodder “the date of minimum durability”; a

                         (ii)    yn lle “the Food Labelling Regulations require” rhodder “Regulation (EU) No 1169/2011 requires”.

Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997

17. Mae Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997([57]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

18. Yn rheoliad 3(b) (gofynion labelu), yn lle “Tables A and B of Part II of Schedule 6 to the Food Labelling Regulations 1996” rhodder “point 1 of Part A of Annex XIII to Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council on the provision of food information to consumers”.

Rheoliadau Bara a Blawd 1998

19. Mae Rheoliadau Bara a Blawd 1998([58]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

20. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     yn y diffiniad o “ingredient”, yn lle “the Food Labelling Regulations 1996” rhodder “Article 2(2)(f) of Regulation (EU) No 1169/2011”;

(b)     yn y diffiniad o “labelling”, yn lle “the Food Labelling Regulations 1996” rhodder “Article 2(2)(j) of Regulation (EU) No 1169/2011”;

(c)     hepgorer y diffiniadau o “the labelling regulations” a “member State”; a

(d)     ar ôl y diffiniad o “labelling”, mewnosoder

“Regulation (EU) No 1169/2011” means Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council on the provision of food information to consumers, amending Regulations (EC) No 1924/2006 and (EC) No 1925/2006 of the European Parliament and of the Council, and repealing Commission Directive 87/250/EEC, Council Directive 90/496/EEC, Commission Directive 1999/10/EC, Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council, Commission Directives 2002/67/EC and 2008/5/EC and Commission Regulation (EC) No 608/2004;.

Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001

21. Mae Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001([59]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

22. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer y diffiniad o Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”); a

(b)     ar ôl y diffiniad o gwerthu” (“sell”), mewnosoder

ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;.

23. Yn rheoliad 5(1) (labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig)—

(a)     yn y geiriau cyflwyno, yn lle Rheoliadau 1996” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011”;

(b)     yn is-baragraff (a), yn lle “rheoliad 6(1) o Reoliadau 1996” rhodder Erthygl 17 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011”; ac

(c)     yn is-baragraff (c), yn lle “â Rheoliadau 1996” rhodder ag Erthygl 17 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011”.

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

24. Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003([60]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

25. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer y diffiniad o Cyfarwyddeb 90/496([61])” (“Directive 90/496”); a

(b)     ar ôl y diffiniad o “paratoi” (“preparation”), mewnosoder

ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;.

26. Yn rheoliad 6 (cyfyngiadau ar werthu sy’n ymwneud â labelu etc. ychwanegion bwyd)—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle Rheoliadau Labelu Bwyd 1996” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif1169/2011”; a

(b)     ym mharagraff (3)(d)—

                           (i)    yn lle yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 90/496” rhodder ym mhwynt 1 o Ran A o Atodiad XIII i Reoliad (EU) Rhif1169/2011”; a

                         (ii)    yn lle “lwfans dyddiol a argymhellir ac sy’n berthnasol ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw” rhodder “gwerth cyfeirio perthnasol a bennir yn y pwynt hwnnw”.

27. Yn rheoliad 7(1) (dull marcio neu labelu), yn lle “reoliad 5(a), (c) ac (e) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996” rhodder bwyntiau (a), (f), (g) ac (h) oErthygl 9(1) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011”.

Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003

28. Mae Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003([62]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

29. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer y diffiniad o Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”); a

(b)     ar ôl y diffiniad o “paratoi” (“preparation”), mewnosoder

ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004([63]);.

30. Yn rheoliad 5 (disgrifiadau neilltuedig), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder

(b) y disgrifiad hwnnw, neu'r peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw'n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu'n awgrymu'n glir nad yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw;

(c)   y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn benodol neu'n awgrymu'n glir nad yw'r bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig ac nad yw'n cynnwys cynnyrch dynodedig; neu

(ch) bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw yn cael eu defnyddio i ddynodi’r bwyd yn unol â’r arferion sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig ac na all y bwyd gael ei ddrysu â chynnyrch a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.

31. Yn rheoliad 6 (labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle Rhan II o Reoliadau 1996” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011”; a

(b)     ym mharagraff (2)(b), yn lle Reoliadau 1996” rhodder Erthygl 9(1)(b) o Reoliad (EU) Rhif1169/2011”.

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003

32. Mae Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003([64]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

33. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     yn y diffiniad o cynhwysyn” (“ingredient”), yn lle Reoliadau 1996” rhodder Erthygl 2(2)(f) o Reoliad (EU) Rhif1169/2011”;

(b)     yn y diffiniad o “labelu” (“labelling”), yn lle Reoliadau 1996” rhodder Erthygl 2(2)(j) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011”;

(c)     hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”); a

(d)     ar ôl y diffiniad o “paratoi” (preparation”), mewnosoder

ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;.

34. Yn rheoliad 4(1) (labelu a disgrifio cynhyrchion mêl penodol), yn lle Rhan II o Reoliadau 1996” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011”.

Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003

35. Mae Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003([65]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

36. Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”).

37. Yn rheoliad 5 (labelu a disgrifio cynhyrchion siwgr penodedig), yn lle “Rhan II o Reoliadau 1996” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr”.

Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004

38. Mae Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004([66]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

39. Yn rheoliad 8(1) (labelu), yn lle Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr”.

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

40. Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006([67]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

41. Yn Atodlen 4 (gofynion rheoli tymheredd), ym mharagraff 8 (dehongli), yn lle is-baragraffau (a) a (b) yn y diffiniad o oes silff” (“shelf life”) rhodder

“(a) o ran bwyd y mae dyddiad parhauster lleiaf  yn ofynnol ar ei gyfer yn unol ag Erthygl 9(1)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, fel y’i darllenir gydag Erthygl 24(1) a (2) o’r Rheoliad hwnnw, yw’r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad parhauster lleiaf gofynnol;

(b)   o ran bwyd y mae angen dyddiad “use by” arno yn unol ag Erthygl 9(1)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i darllenir gydag Erthygl 24(1) a (2) o’r Rheoliad hwnnw, yw’r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad “use by”gofynnol; ac”.

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007

42. Mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007([68]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

43. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “sefydliad arlwyo (“catering establishment”);

(b)     yn y diffiniad o dosbarthiad lleol” a “dosbarthu’n lleol” (“local distribution”), yn lle sefydliad arlwyo rhodder arlwywr mawr”;

(c)     cyn y diffiniad o awdurdod bwyd” (“food authority), mewnosoder

mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “mass caterer” gan Erthygl 2(2)(d) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr;;

(d)     yn y diffiniad o rhagbecyn” (“prepackaging”), yn lle Rheoliadau Labelu Bwyd 1996” rhodder “Erthygl 2(2)(e) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr”; ac

(e)     yn lle’r diffiniad o defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) rhodder

mae i “defnyddiwr olaf” yr un ystyr ag sydd i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad 178/2002.

44. Ym mharagraffau (1) a (3) o reoliad 5 (marchnata neu labelu bwydydd sydd wedi’u rhewi’n gyflym), yn lle sefydliad arlwyo rhodder arlwywr mawr”.

Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007

45. Mae Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007([69]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

46. Yn rheoliad 4(2) (tramgwyddau a chosbau), yn lle is-baragraff (d) rhodder

(d) Erthygl 7(1), (2) a (3)([70]) (cyfyngiadau ac amodau sy’n gymwys i labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd y mae fitaminau neu fwynau wedi’u hychwanegu atynt).

Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

47. Mae Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007([71]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

48. Yn rheoliad 5(2) (tramgwyddau a chosbau), yn lle is-baragraff (ch) rhodder

(ch)  Erthygl 7([72]) (gofynion ar gyfer gwybodaeth faethol);.

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

49. Mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007([73]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

50. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “hysbyseb” (“advertisement”) a “hysbysebu” (“advertise”) rhodder—

ystyr hysbyseb” (“advertisement”) yw cynrychiolaeth ar unrhyw ffurf mewn cysylltiad â masnach neu fusnes er mwyn hybu cyflenwi nwyddau ac mae “hysbysebu” (“advertise”) i’w ddehongli yn unol â hynny;.

Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

51. Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010([74]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

52. Yn rheoliad 3(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer y diffiniad o Cyfarwyddeb 2000/13/EC” (“Directive 2000/13/EC”);

(b)     yn lle’r diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003” (“Regulation (EC) No2160/2003”), rhodder

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003” (“Regulation (EC) No 2160/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd([75]);

ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;.

53. Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau([76]) ac y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—

(a)     yn ail golofn y cofnod yn y tabl ynglŷn ag Erthygl 4(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, yn lle Chyfarwyddeb2000/13/EC” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011”;

(b)     yn ail golofn y cofnod yn y tabl ynglŷn ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, yn lle “ac Erthygl 9(2) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC” rhodder “a phwynt 1(a) o Atodiad X i Reoliad (EU) Rhif 1169/2011”; ac

(c)     yn ail golofn y cofnod yn y tabl ynglŷn ag Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, yn lle “Erthygl 3(1)(5) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC” rhodder “Erthygl 9(1)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011”.

Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

54. Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013([77]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

55. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “cig” (“meat”) rhodder—

ystyr “cig” (“meat”) yw cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau o famaliaid ac adar y cydnabyddir eu bod yn addas i’w bwyta gan bobl gyda’r feinwe wedi ei chynnwys yn naturiol neu feinwe ymlynol ond nid yw’n cynnwys cig a wahenir yn fecanyddol (y mae iddo’r ystyr a roddir i “mechanically separated meat” ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n deillio o anifeiliaid)([78]);.

 



([1])           1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p .51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

([2])           OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t 7).

([3])           O.S. 2005/1971, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).

([4])           O.S. 2010/2690.

([5])           1990 p. 16.

([6])           Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).

([7])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t 14).

([8])           1972 p.68 Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a’i ddiwygio gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.

([9])           1990 p.16 Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40) a pharagraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (“Deddf 1999”) a’i diddymu’n rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 17 gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 18 gan baragraffau 8 a 13 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diddymwyd adran 26 yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 45 gan baragraffau 8 ac 20 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

([10])         Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([11])         2009 mccc 3.

([12])         OJ Rhif L 66. 13.3.1999, t 16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t 1).

([13])         OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t 55, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 633/2014 (OJ Rhif L 175, 16.6.2014, t 6).

([14])         Diwygiwyd is-adrannau (5) a (6) o adran 32 gan baragraff 18 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16).

([15])         OJ Rhif L 157, 17.6.2008, t 46, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t 671).

([16])         OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t 7).

([17])         Diwygiwyd adran 21(2) gan O.S. 2004/3279.

([18])         Mae adran 35(1) wedi ei diwygio gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) o ddyddiad i’w bennu.

([19])         Mewnosodwyd adran 36A gan baragraff 16 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).

([20])         OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t 58, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2012/12/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 115, 27.4.2012, t 1).

([21])         Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/141, 1398, 1999/747, 1136, 1483, 1603, 2000/1925 (Cy. 134), 2001/1232 (Cy. 66), 1440 (Cy. 102), 2003/832 (Cy. 104), 1635 (Cy. 177), 3037 (Cy. 285), 3044 (Cy. 288), 3047 (Cy. 290), 3053 (Cy. 291), 2004/249 (Cy. 26), 553 (Cy. 56), 1396 (Cy. 141), 2558 (Cy. 229), 2731 (Cy. 238), 3022 (Cy. 261), 2005/1309 (Cy. 91), 2006/31 (Cy. 5), 2007/2611 (Cy. 222), 2008/1268 (Cy. 128), 2009/2705 (Cy. 224), 3377 (Cy. 299), 2010/363 (Cy. 45), 1492 (Cy. 135), 2288 (Cy. 200), 2922 (Cy. 243), 2011/465 (Cy. 70), 1043, 2936, 2012/1809, 2705 (Cy. 291), 2013/545 (Cy. 58), 2750 (Cy. 267), 2591 (Cy. 255), 3235. Mae O.S. 1996/1499 wedi ei ddiwygio ar 19 Medi 2014 gan baragraffau 1 i 3 o Atodlen 7 i’r Rheoliadau hyn.

([22])         Ceir diwygiadau i O.S. 1998/141 nad ydynt yn berthnasol i’r dirymiad hwn.

([23])         Ceir diwygiadau i O.S. 1998/1398 nad ydynt yn berthnasol i’r dirymiad hwn.

([24])         Ceir diwygiadau i O.S. 1999/747 nad ydynt yn berthnasol i’r dirymiad hwn.

([25])         Ceir diwygiadau i O.S. 1999/1136 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([26])         Ceir diwygiadau i O.S. 1999/1603 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([27])         Diwygiwyd O.S. 2001/1232 (Cy. 66) gan O.S. 2009/1795 (Cy. 162).

([28])         Ceir diwygiadau i O.S. 2001/1440 (Cy. 102) nad ydynt yn berthnasol i'r dirymiad hwn.

([29])         Ceir diwygiadau i O.S. 2003/3037 (Cy. 285) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([30])         Ceir diwygiadau i O.S. 2003/3044 (Cy. 288) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([31])         Ceir diwygiadau i O.S. 2003/3047 (Cy. 290) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([32])         Diwygiwyd O.S. 2004/249 (Cy. 26) gan O.S. 2004/3220 (Cy. 276).

([33])         Diwygiwyd O.S. 2004/3022 (Cy. 261) gan O.S. 2008/1268 (Cy. 128).

([34])         Diwygiwyd O.S. 2005/1224 (Cy. 82) gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247), 2014/440 (Cy. 49).

([35])         Ceir diwygiadau i O.S. 2006/31 (Cy. 5) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([36])         Ceir diwygiadau i O.S. 2007/2611 (Cy. 222) nad ydynt yn berthnasol i’r dirymiad hwn.

([37])         Ceir diwygiadau i O.S. 2007/3165 (Cy, 276) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([38])         Diwygiwyd O.S. 2008/1268 (Cy. 128) gan O.S. 2009/2880 (Cy. 253).

([39])         Diwygiwyd O.S. 2009/2705 (Cy. 224) gan O.S. 2010/1069 (Cy. 100).

([40])         Diwygiwyd O.S. 2009/3377 (Cy. 299) gan O.S. 2013/2591 (Cy. 255).

([41])         Ceir diwygiadau i O.S. 2010/1492 (Cy. 135) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([42])         Ceir diwygiadau i O.S. 2010/2922 (Cy. 243) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([43])         Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/141, 1398, 1999/747, 1136, 1483, 1603, 2000/1925 (Cy. 134), 2001/1232 (Cy. 66), 1440 (Cy. 102), 2003/832 (Cy. 104), 1635 (Cy. 177), 3037 (Cy. 285), 3044 (Cy. 288), 3047 (Cy. 290), 3053 (Cy. 291), 2004/249 (Cy. 26), 553 (Cy. 56), 1396 (Cy. 141), 2558 (Cy. 229), 2731 (Cy. 238), 3022 (Cy. 261), 2005/1309 (Cy. 91), 2006/31 (Cy. 5), 2007/2611 (Cy. 222), 2008/1268 (Cy. 128), 2009/2705 (Cy. 224), 3377 (Cy. 299), 2010/363 (Cy .45), 1492 (Cy. 135), 2288 (Cy. 200), 2922 (Cy. 243), 2011/465 (Cy. 70), 1043, 2936, 2012/1809, 2705 (Cy. 291), 2013/545 (Cy. 58), 2750 (Cy. 267), 2591 (Cy. 255), 3235. Mae O.S. 1996/1499 wedi ei ddiwygio ar 19 Medi 2014 gan baragraffau 1 i 3 o Atodlen 7 i’r Rheoliadau hyn ac ar 13 Rhagfyr 2014 gan baragraffau 10 i 13 o’r Atodlen honno. Mae O.S. 1996/1499 wedi ei ddirymu ar 13 Rhagfyr 2018 gan gofnod 1 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn i’r graddau nad yw eisoes wedi ei ddirymu ar 13 Rhagfyr 2014 gan gofnod 1 y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen honno.

([44])         Mae O.S. 1998/1398 wedi ei ddirymu ar 13 Rhagfyr 2018 gan gofnod 2 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn i’r graddau nad yw eisoes wedi ei ddirymu ar 13 Rhagfyr 2014 gan gofnod 3 y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen honno; ceir offerynnau eraill sy’n diwygio O.S. 1998/1398 ond nid yw’r un yn berthnasol.

([45])         Mae O.S. 1999/747 wedi ei ddirymu ar 13 Rhagfyr 2018 gan gofnod 3 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn i’r graddau nad yw eisoes wedi ei ddirymu ar 13 Rhagfyr 2014 gan gofnod 4 y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen honno; ceir offerynnau eraill sy’n diwygio O.S. 1999/747 ond nid yw’r un yn berthnasol.

([46])         O.S 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/2936; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol i’r diwygiadau a wneir gan baragraffau 1 i 3.

([47])         OJ Rhif L 193, 24.7.2009, t 60, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 753/2013 (OJ Rhif L 210, 6.8.2013, t 21).

([48])         O.S. 1996/1502, a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043.

([49])         OJ Rhif L 186, 30.6.1989, t 21, a ddiddymwyd gan Gyfarwyddeb 2011/91/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 334, 16.12.2011, t 1).

([50])         OJ Rhif L 334, 16.12.2011, t 1.

([51])         O.S. 2007/1984 (Cy. 165), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r diwygiadau a wneir gan baragraffau 6 a 7.

([52])         OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t 7).

([53])         O.S. 2007/2611 (Cy. 222), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r diwygiad a wneir gan baragraffau 8 a 9.

([54])         O.S. 1996/1499, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 2011/1043. Mae O.S. 1996/1499 wedi ei ddirymu’n rhannol ar 13 Rhagfyr 2014 gan gofnod 1 y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn.

([55])         O.S. 1996/1502 a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043. Mae O.S. 1996/1502 wedi ei ddiwygio ar 19 Medi 2014 gan baragraffau 4 a 5 o Atodlen 7 i’r Rheoliadau hyn.

([56])         OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t 14).

([57])         O.S. 1997/2182, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([58])         O.S. 1998/141, a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

([59])         O.S. 2001/1440 (Cy. 102), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/3047 (Cy. 290); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

([60])         O.S. 2003/1719 (Cy. 186), a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/3252 (Cy. 282); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

([61])         OJ Rhif L 276, 06.10.1990, t 40, a ddiddymwyd gan Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18).

([62])         O.S. 2003/3037 (Cy. 285), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([63])         OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t 7).

([64])         O.S. 2003/3044 (Cy. 288), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([65])         O.S. 2003/3047 (Cy. 290), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([66])         O.S. 2004/314 (Cy. 32), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([67])         O.S. 2006/31 (Cy. 5), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([68])         O.S. 2007/389 (Cy. 40), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([69])         Mae O.S. 2007/1984 (Cy. 165) wedi ei ddiwygio ar 19 Medi 2014 gan baragraffau 6 a 7 o Atodlen 7 i’r Rheoliadau hyn; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

([70])         Diwygiwyd Erthygl 7(3) o Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 404. 30.12.2006, t 26) gan Erthygl 50 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor; yn rhinwedd ail is-baragraff Erthygl 55 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 mae’r diwygiad hwnnw yn gymwys o 13 Rhagfyr 2014.

([71])         Mae O.S. 2007/2611 (Cy. 222) wedi ei ddiwygio ar 19 Medi 2014 gan baragraffau 8 a 9 o Atodlen 7 i’r Rheoliadau hyn; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

([72])         Diwygiwyd Erthygl 7 o Reoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 404,  30.12.2006, t 26) gan Erthygl 49 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor; yn rhinwedd ail is-baragraff Erthygl 55 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 mae’r diwygiad hwnnw yn gymwys o 13 Rhagfyr 2014.

([73])         O.S. 2007/3165 (Cy. 276), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([74])         O.S. 2010/1671 (Cy. 158), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([75])         OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) Rhif 517/2013 (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t 1).

([76])         OJ Rhif L 163, 24.06.2008, t 6, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 519/2013 (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t 74).

([77])         O.S. 2013/1984 (Cy. 194), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([78])         OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t 55, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 633/2014 (OJ Rhif L 175, 14.6.2014, t 6).